Goruchwylwr Bar a Chegin

Cyflog
£23,632
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
31.01.2025
Profile picture for user shermantheatre

Postiwyd gan: shermantheatre

Dyddiad: 10 January 2025

Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Goruchwylwr Bar a Chegin. Mae hon yn rôl gyffrous a heriol o fewn y sefydliad ac yn ganolog i'n helpu i gyflawni ein huchelgais i greu theatr wych a darparu profiad gwych i ymwelwyr fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a thu hwnt.


Bydd disgwyl i chi sicrhau bod gwasanaethau’r bar a’r gegin yn gweithredu’n effeithiol a phroffidiol ac yn cefnogi ac yn arddel amcanion Theatr y Sherman yn ystod perfformiadau a’r tu allan i’r amseroedd hynny. Bydd disgwyl i chi hefyd gynorthwyo Rheolwr y Bar a’r Gegin i ddarparu gwasanaethau bar a chegin o ddydd i ddydd, gan gynnwys gweithgareddau a digwyddiadau.


Cynigir y swydd hon fel llawn amser, cyfnod parhaol. Byddwn yn ystyried contractau rhan-amser ar gyfer yr ymgeisydd cywir.

 

Dyddiad cau: dydd Gwener 31 Ionawr 2025 am hanner dydd.

Cynhelir y cyfweliadau ddydd Gwener 7 Chwefror 2025 


Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.


Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.  

Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn www.shermantheatre.co.uk/amdanom-ni/jobs/?lang=cy 


Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.
 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event