Partner Busnes Adnoddau Dynol (12 mis – dros gyfnod mamolaeth)

Cyflog
£29,718 - £34,666y flwyddyn
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Fixed term
Closing date
23.01.2025
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 9 January 2025

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Partner Busnes Adnoddau Dynol (12 mis – dros gyfnod mamolaeth)

Ystod Cyflog: £29,718 - £34,666y flwyddyn

Dyddiad Cau: 23 Ionawr 2025

Dyddiad Cyfweld:30 Ionawr a 6 Chwefror 2025


Amdanom Ni/Ein Hadran

Rydym yn chwilio am Bartner Busnes Adnoddau Dynol i ymuno â'n sefydliad cyffrous a chydnabyddedig. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl, yn gweithio gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau a byddem wrth ein bodd i’ch croesawu i’n tîm.

Rydym yn dîm AD sy'n canolbwyntio ar wella profiad cyflogeion trwy awtomeiddio ein prosesau, creu amgylchedd gwaith ysbrydoledig a deniadol a hyrwyddo arferion gorau o ran mentrau Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae gennym agenda cynhwysfawr ar gyfer ein Pobl a dyma gyfle i chi chwarae rhan allweddol ynddi.

 

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau

Bydd y rôl yn atebol i’r Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol a bydd yn cefnogi ac yn hybu gweithrediad strategaeth pobl CMC.Byddwch yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i arweinwyr CMC ym mhob maes AD i gefnogi cyflawniad gweledigaeth CMC, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, rheoli absenoldeb, rheoli perfformiad, dysgu a datblygu, gwobrwyo a chydnabod, ymgysylltu â gweithwyr a chysylltiadau gweithwyr.

Byddwch yn gyfrifol am sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth cyflogaeth ac arfer gorau gan ddefnyddio'r wybodaeth hon i greu, datblygu, adolygu a gweithredu polisïau a newidiadau cytundebol.

Byddwch yn arwain y gwaith o weithredu prosiectau i wella'r gwasanaeth a ddarperir i'r sefydliad, gan ganolbwyntio'n benodol ar weithredu a datblygu system recriwtio newydd i wneud y gorau o'i llawn botensial. Bydd prosiectau eraill yn cynnwys rhaglenni recriwtio a datblygu i ddenu a chadw talent newydd.

Gellir cyflawni'r rôl hon ar sail hybrid gydag o leiaf 3 diwrnod ar y safle, yn dilyn cyfnod sefydlu cychwynnol.

Mae’n bosib y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer eich rôl.

 

Gofynion Allweddol

  • Bydd gennych ddealltwriaeth gyffredinol gref o bob maes AD, gan gynnwys caffael a datblygu talent, ymgysylltu â gweithwyr, deddfwriaeth cyflogaeth a chysylltiadau gweithwyr
  • Profiad amlwg o greu, datblygu a gweithredu polisïau a newidiadau cytundebol
  • Byddwch wedi arwain yn llwyddiannus ar ystod o fentrau gwella AD ar draws systemau, awtomeiddio prosesau a gwelliannau, gyda sgiliau rheoli prosiect amlwg i gyflawni prosiectau gwella AD yn effeithiol, ar amser a chyda lefel uchel o ansawdd ac ymgysylltiad
  • Y gallu i ddatrys problemau yn hyderus, adnabod atebion a'u rhoi ar waith yn gyflym
  • Yn atebol am eich gweithredoedd eich hun, yn gweithio mewn modd rhagweithiol a chyda menter gref
  • Sgiliau rheoli perthynas ardderchog a'r gallu i adeiladu a chynnal partneriaethau gwaith
  • Byddwch yn meddu ar gymhwyster CIPD lefel 5 neu brofiad cyfatebol amlwg.


Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc
  • Cyfraniad pensiwn o 8% gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 2%)
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol)


Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event