Cyfansoddwr/Cynllunydd sain

Cyflog
£600/wythnos
Location
Caerdydd
Oriau
Fixed term
Closing date
30.09.2024
Profile picture for user Sara Hartel

Postiwyd gan: Sara Hartel

Dyddiad: 17 September 2024

Am y Prosiect:

“Weithiau, dwi’n teimlo fel tramorwr yn fy nghorff fy hun.”

Mae Tramorwr Yn Fy Nghorff yn brosiect cyffroes newydd gan Sara Hartel sy’n cyfuno theatr gorfforol, syrcas a hygyrchedd i archwilio’r cyfyngiadau mae iaith yn rhoi ar unigolion. Mae’n seiliedig ar brofiadau nhw fel artist trawsrywiol a mewnfudwr i’r DU. Mae TYFN yn archwilio’n ddewr y tebygrwydd rhwng y ddau brofiad, yn enwedig y ffordd mae’r gymdeithas yn gorfodi cyfyngiadau o gwmpas ein rhyddhad i archwilio tirluniau’r byd a chyrff ein hunain.

Gyda phartneriaeth syrcas No Fit State a theatr Torch, mae’r Y&D yma eisiau creu sioe sy’n cyfuno syrcas, theatr gorfforol a straeon hunangofiannol gyda disgrifiadau clywedol faleisus a fydd yn gorfodi’r perfformiwr mewn i symudiadau rhywiog. Bu’r sioe yn grymuso cynulleidfaoedd cwiar trwy ddarlunio llawenydd traws dilys a chaledi, wrth hefyd caniatâi cynulleidfaoedd di-LHDBC+ i deimlo sut mai i fod yn dramorwr o fewn eu cyrff eu hunain trwy’r trosiad o groesi ffiniau, yn clymu fe gyda statws mewnfudwr fy hun.

Ariannu’r prosiect yma gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Amdana i:

Sara Hartel ydw i. Creuwr theatr draws a mewnfudwr wedi’u lleoli yng Nghymru. Dwi’n creu gwaith arbrofol sy’n croesi ffiniau ffurf a genre. Os oes rhaid diffinio gwaith fi, byddwn i’n dweud taw dylanwadau cynradd fi yw gwaith rhyngweithiol ac ymdrochol ynghyd a theatr gorfforol. Dwi’n creu gwaith sy’n galluogi cynulleidfaoedd i archwilio profiadau newydd, un ai darganfod y dewrder i guro yn ôl yn erbyn cyfundrefn cyfalafiaeth greulon, neu ddweud straeon mewn ffurf newydd trwy’r moddau o gysylltu i ein cyrff neu ddefnyddio hygyrch yn greadigol fel offeryn i adrodd straeon.

Dwi wedi bod yn artist arweiniol ar amryw o brosiectau dros wahanol ffurfiau o gelf ac yn ymestyn ffiniau theatr. Er enghraifft, datblygu gem realiti amgen er lles gweithwyr iechyd a gofal cymunedol i gwmni Cultural Cwtch, neu’r prosiect mwyaf diweddar fi yn datblygu darn i “Arddangosfa lleoedd Cwiar” Oriel Elysium, lle cydweithiais i gydag adluniau GUNK i greu gosodiad celf dewis-antur-dy-hun. Hefyd, ysgrifennais i, “Strike Ltd.” I Theatr Volcano – sioe ryngweithiol un person sy’n ysbrydoli’r gynulleidfa i derfysgu. Mae adio sidanau awyrol i fy ngwaith wedi cynnig heolydd cyffroes newydd i mi ymchwilio o fewn fy methodoleg sydd yn barod wedi cymysgu gwahanol ffurfiau o gelf i greu profiadau theatr sy’n gwthio heibio syniadau traddodiadol theatr.

Am y rôl:

Byddech chi:

  • Yn yr ystafell yn ystod yr Y&D yn creu cyfansoddiadau ymatebol i’r dilyniannau symudol sy’n cael eu creu gan y tîm. Yn hytrach na coreograffi i gerddoriaeth sydd wedi’u greu o flaen llaw, dylai’r cyfansoddiadau/cynlluniau sain a’r coreograffi gweithio gyda'i gilydd lle mae’r ddau yn diweddaru ei gilydd.

  • Yn cyfansoddi sgôr sy’n ehangu’r coreograffi. Hoffwn I ymchwilio sut ffurf all disgrifiadau clywedol cymryd ac os mae’r cynlluniau sain gallu weithio gyda’r disgrifiadau i greu “disgrifiadau clywedol cerddorol”. Bydd hefydd angen y gallu i recordio’r cyfansoddiadau a darparu’r cyfansoddion i gael eu defnyddio yn ystod yr Y&D.

  • Ynghyd a darparu cyfansoddiadau cerddorol, bydd rhaid darparu effeithiau sain a thirluniau sain.

  • Yn cynorthwyo recordio’r disgrifiadau clywedol.

  • Mae gennych chi fynediad I lle recordio a fydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod y prosiect I recordio’r deunydd troslais. Os nid lle eich hun, bydd gwybodaeth am llefydd a fydd gallu cael eu bwcio yn defnyddiol.

Dymuniadol:

  • Profiad bywydol o fod yn draws ac/neu fyw fel tramorwr yn y DU. Does ddim angen dweud mwy am eich profiad na beth ddymunwch chi neu sy’n addas. Er enghraifft, bydd hi’n iawn i ddweud “ Mae gen i brofiad bywiol sy’n addas i’r anghenion dymunol”.

Logisteg (Y Ffeithiau):

  • Bod ar gael i weithio yng Nghaerdydd yn y No Fit State Circus 13/01/25 – 07/02/25. Bu’r proses yn cynnwys 3 wythnos o gydweithio yn yr ystafell gyda’r tîm, 1 wythnos o gyfansoddi/Recordio disgrifiadau clywedol gyda fi tu fas i’r lleoliad ymarfer. Bydd cyflwyniad yn Theatr Torch ym Milford Haven a bydd croeso i chi ymuno, ond ni fydd hi’n angenrheidiol neu yn rhan o’ch ffi.

  • Y Ffi: £2400 wedi’i thorri lawr fel £600/wythnos am 4 wythnos.

I wneud cais:

Anfonwch eich CV i Sara-S-Hartel@live.de ynghyd ac ymateb i un o’r pethe isod erbyn 30/9/24 am 23.59. Gall ymatebion bod yn Saesneg neu Gymraeg ac wedi’u hysgrifennu, recordio’n glywedol neu fideo.

  • Dweud wrthyf amdanoch hunain, eich ymarfer, eich dylanwadau a’ch profiad fel cyfansoddwr/cynllunydd sain.

  • Beth yw eich cysylltiad i themâu’r prosiect yma.

  • Enghreifftiau o’ch Gwaith/ linc i’ch portfolio.

  • Profiad addas blaenorol.

Awgrymwn dylai nifer y geiriau bod tua 500 gair neu 3 munud o recordio ond dwi’n deall all cyfyngiadau fel hyn amharu ar gyrchiad, felly ceisiwch weithio i’r cyfyngiadau ond dos dydych chi ddim gallu, gyd dwi’n ofyn yw i chi ddim i gymryd y mic.

Mae natur y rôl yma yn hynod o lifyddol a dwi’n edrych ymlaen ato fod yn hyblyg wrth ymateb i’r ceisiwr ni’n dewis. Os yr ydych yn meddwl eich bod chi’n medru ateb y briff, rydw i’n annog yn gryf i chi ceisio!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn ceisio, cysylltwch gyda fi a gofynnwch.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event