Mae The Posh Club, digwyddiad cymdeithasol 'crand' tafod-yn-y-boch ar gyfer rheini dros 60, wedi'i gynnal mewn lleoliadau ar draws Llundain ers bron i ddegawd. Gyda te prynhawn, dawnsio ac amryw o berfformiadau gan artistiaid lleol, mae'r digwyddiad wedi bod yn hynod lwyddiannus yn adlonni cynulleidfaoedd hŷn Llundain yn rheolaidd.
Posh Club yn cyrraedd Caerdydd
Bydd y digwyddiad cyfareddol mewn steil y 40au ar agor i dros 100 o bobl hŷn. Bydd yn trawsnewid canolfan gymunedol Hyb Llaneirwg yng Nghaerdydd ar 20-22 Rhagfyr 2022 i hwb 'crand' o adloniant, gyda help cwmni theatr Common Wealth.
Yr unig reol na chewch ei thorri yw’r cod gwisg: Crand.
Dywedodd Rhiannon White, cydgyfarwyddwr artistig Common Wealth:
"Mae Common Wealth wedi ymsefydlu yn nwyrain Caerdydd ers pedair blynedd, gan weithio gyda'r gymuned leol drwy gyd-greu a chynnal perfformiadau byw er mwyn creu newid cymdeithasol. Bydd The Posh Club yn garreg filltir i ni wrth i ni ddod â'r henoed, pobl leol fel gwesteiwyr perfformio a llu o artistiaid sy'n gwthio ffiniau talentog at ei gilydd. Y gobaith yw y bydd dod â'n cymuned at ei gilydd i ddathlu ein gilydd mewn ffordd ddirywiaethol, chwareus, a chalonogol, yn lledaenu rhywfaint o lawenydd yn y cyfnod ansicr a heriol hwn.”
Darllenwch fwy am y sioe a sut i archebu tocyn neu gwirfoddoli i gefnogi'r digwyddiad.
Mwy am Common Wealth
Mae Common Wealth yn gwmni theatr gyfoes safle-benodol wedi’i leoli yn Bradford a Chaerdydd. Mae’n edrych i lwyfannu ei gwaith o fewn calon cymunedau, gan ailddatgan bod pŵer theatr yn perthyn i bawb. Dysgwch fwy am Common Wealth a'i waith.