Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.
Yn 2015, cyd-sylfaenodd Justin a'r Athro Ian Hargreaves Uned yr Economi Greadigol i gynnwys rhwydwaith dinas greadigol - Caerdydd Creadigol.
Justin yw arweinydd academaidd Caerdydd Creadigol, gan arwain ymchwil yn cynnwys Mapio Economi Greadigol Caerdydd 2016, gwerthuso Gŵyl y Llais gyda Chanolfan Mileniwm Cymru ac astudiaeth Caerdydd Creadigol ar Gynllun Cefnogaeth COVID-19 yn 2020.
Justin hefyd yw Cyfarwyddwr Clwstwr - un o naw Clwstwr y Diwydiannau Creadigol ar draws y DU, a ariennir gan Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU - sy’n ceisio rhoi arloesedd, ymchwil a datblygu wrth wraidd cynhyrchu cyfryngol yn ne Cymru.
Mae wedi cynnal gwaith ymchwil gyda nifer o wahanol sefydliadau creadigol, gan gynnwys y BBC, Ymddiriedolaeth y BBC, Channel 4, y Guardian, yn ogystal â chynghorau ymchwil y DU ac Ewrop. Mae wedi cyhoeddi dros 100 o lyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau am ystod eang o faterion yn ymwneud â’r cyfryngau a diwylliant.
Mae Justin yn cadeirio'r Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol ac yn Gadeirydd un o Baneli Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil Llywodraeth y DU.