Yn 2023, lansiodd Canolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol.
Wedi’i gyflwyno drwy Gaerdydd Creadigol, bu’r prosiect peilot hwn yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid y diwydiant yn Sir Fynwy, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf i archwilio ffyrdd newydd o ehangu effaith clwstwr creadigol Caerdydd ar draws y rhanbarth ehangach.
Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym nawr yn lansio ein hadroddiad effaith Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol.
Byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dydd Mercher 10 Gorffennaf am 17:30 wrth i ni archwilio’r hyn y mae’r prosiect wedi’i gyflawni yn ystod y deuddeg mis diwethaf, a sut y gallwn gydweithio i fynd a'r gwaith yn bellach.
Bydd rhwydweithio, perfformiadau byw, arddangosiadau, diodydd a chanapés a chyfleoedd i gysylltu a rhannu yn y gwaith uchelgeisiol hwn i helpu i wneud Caerdydd, a’r rhanbarth, yn fwyaf cynhwysol, cysylltiedig, cydweithredol a chreadigol.
Ariannwyd Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol drwy Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol: Lansio Adroddiad Effaith
10/07/2024 - 17:30
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd
Postiwyd gan: Creative Cardiff