Mae dros 40,000 o fyfyrwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â chynfyfyrwyr ledled y byd yn rhan o gymuned Prifysgol Caerdydd. Mae'r Brifysgol yn denu buddsoddiadau gan y sector cyhoeddus a phreifat i drosi ymchwil o'r radd flaenaf yn gynnyrch, gwasanaethau a phrosesau ar gyfer y dyfodol.
Gall busnesau ac entrepreneuriaid sydd am weithio yng nghanol y Brifysgol, ddefnyddio ystafelloedd yn Arloesedd Caerdydd, ac mae hyn yn creu cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau â myfyrwyr, graddedigion, athrawon ac ymchwilwyr y Brifysgol.
Os oes angen swyddfeydd, labordai neu fannau cydweithio arnoch, mae Arloesedd Caerdydd yn sbarc yn eich gwahodd i ymuno â'u cymuned.
Beth sydd ar gael?
- Swyddfeydd y gellir eu llogi
- Cydweithio: opsiynau o ran desgiau pwrpasol a thros dro
- Labordai gwlyb y gellir eu llogi
- Mannau ar gyfer cynadledda/digwyddiadau
- Derbynfa ganolog
- Caffi Llaeth a Siwgr
- Mannau ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer cyfarfodydd, gyda chyfleusterau cynadledda o'r radd flaenaf
Cyfleusterau
- Bydd ystafelloedd cyfarfod y gellir ac na ellir eu cadw ar gael. Bydd offer TG ac offer clyweledol ar gael ym mhob un
- Ceir cegin bwrpasol, ac mae te a choffi yn gynwysedig. Ceir hefyd gaffi ar y safle a digon o fannau trafod nad oes angen eu cadw o flaen llaw, a hynny ledled yr adeilad
- Cysylltedd rhyngrwyd tra-chyflym
- Gwasanaethau glanhau, diogelwch a derbynfa, ynghyd â mynediad cerdyn allwedd 24/7
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am logi desg, mae opsiynau ar gael ar gyfer desgiau dros dro, desgiau pwrpasol neu swyddfeydd pwrpasol.
I gael manylion llawn am opsiynau prisio a llogi, edrychwch ar y llyfryn
Os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd neu wedi graddio'n ddiweddar ac yn datblygu eich busnes eich hun, cysylltwch â Dyfodol Myfyrwyr i gael mynediad at gymorth a all gynnwys mynediad am ddim at yr adeilad: studentconnect@caerdydd.ac.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adeilad, cysylltwch â thîm Arloesi Caerdydd ar sbarcinnovations@caerdydd.ac.uk