Yn y pedwerydd rhifyn o ail gyfres Get A 'Proper' Job, mae'r cyflwynydd Kayleigh Mcleod yn sgwrsio gydag Ali Abdi, rheolwr partneriaeth y Porth Cymunedol, ac Alexia Barrett a raddiodd yn ddiweddar o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, am bontio o fod yn berson ifanc creadigol i fod yn weithiwr creadigol.
Recordiwyd y bennod hon o bell o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 ym mis Awst 2020.
Mae Alexia yn awdur, podledwr ac yn aelod o Grŵp Cynghori Caerdydd Creadigol. Wrth siarad am y farchnad swyddi ar hyn o bryd, dywedodd: "Rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy o gyfleoedd yn ymddangos ac er gwaethaf y pandemig y bydd y DU yn ffynnu ac y bydd llawer mwy o bobl yn dal i fynd ati i wneud ffilmiau, cynhyrchu a newyddiaduraeth. Rwy'n gobeithio manteisio ar y cyfleoedd hynny yn y dyfodol a gwneud pethau gwych i adeiladu fy ngyrfa."
Mae gwaith Ali'n canolbwyntio ar feithrin partneriaethau llwyddiannus rhwng Prifysgol Caerdydd a chymuned Grangetown drwy amrywiaeth o raglenni ymgysylltu a datblygu i bobl ifanc.
Wrth siarad am ddyfodol y diwydiannau creadigol yn y ddinas, dywedodd: "Fy ngobaith at y dyfodol yw y bydd y Diwydiannau Creadigol yn fwy amrywiol, yn fwy rhagweithiol, yn ymgysylltu'n fwy nag erioed ac y bydd Caerdydd a Chymru ar y map am greu rhai o'r bobl greadigol orau a datblygu'r bobl greadigol orau."
Gwrandewch ar y bennod lawn:
iTunes: https://apple.co/32j6QaG
Spotify: https://spoti.fi/366vi0o
Dolenni a rhagor o wybodaeth
- Podlediad Prifysgol XR
- Dinasyddion Cymru
- Gwybodaeth am Gontract Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru
- Mynediad Creadigol
- Into Film
- Sgwrs grŵp Galswhograduate
- ItsmyShout
- Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru
Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.
Gwrando ar benodau eraill o gyfres gyntaf Get A 'Proper' Job yma.