Mae Thania’n ddarlithydd, perfformwraig a seicotherapydd symudiad dawns o Puerto Rico. Ar hyn o bryd, mae Thania’n gweithio fel darlithydd mewn dawns a theatr gorfforol ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, ac mae hi’n cydbwyso hyn â’i gwaith celfyddydol yng Nghymru a’r Alban. A hithau’n seicotherapydd symud drwy ddawns ac yn hwylusydd gweithdai, mae Thania’n canolbwyntio ar weithio gyda’r gymuned LGBT+, gwneud penderfyniadau wedi’u hymgorffori, celfyddydau rhyngddisgyblaethol, atal trais a dawns er iechyd a lles.
Dr Thania Acaron
artist rhyngddisgyblaethol, seicotherapydd dawns/symudiad, darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru