Mae Bethan yn Ddylunydd sy’n Rhoi Pobl yn Gyntaf, sy’n gweithio ym maes academia ac yn cyfrannu at feithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid a dylunwyr. Mae gwaith Bethan hefyd yn cynnwys gweithio gyda byd diwydiant lleol i weithredu proses HCD, a gafodd ei chydnabod â Gwobr Insider yn 2017. Mae gwaith diweddaraf Bethan yn cynnwys cyfrannu at Faes Celfyddydau Mynegiannol Cwricwlwm Newydd Cymru, ac mae hi’n gweithio gydag Ysgolion Lleol i nodi anghenion athrawon o ran datblygiad proffesiynol mewn ymateb i’r Cwricwlwm newydd. Menter ddiweddaraf Bethan yw Diwrnod y Gymuned, lle mae CSAD yn agor ei weithdai a’i stiwdios fel y gall unrhyw un brofi’r cyfleusterau. Bwriad hyn yw ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ i’r gymuned.
Bethan Gordon
Dirprwy Ddeon Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Met Caerdydd