Fe wnaeth CULTVR, gofod rhyngddisgyblaethol ymdrwythol cyntaf Ewrop sydd â phwyslais cryf ar y celfyddydau digidol, perfformiad byw a sinema 360º, agor ei ddrysau am y tro cyntaf.
Ffrwyth blynyddoedd o waith a pharatoad gan sefydlwyr 4Pi Productions, Matt Wright a Janire Najera yw’r prosiect hwn. Aethom ni i CULTVR yr wythnos ddiwethaf i fwrw golwg dros y gofod newydd a sgwrsio â Matt a Jani a wnaeth sôn am eu gweledigaeth ar gyfer CULTVR, pŵer cromennau a chynnig lle i’r gymuned greadigol archwilio profiadau ymdrwytho.
Gyda chapasiti sy’n amrywio o 100 i 400 o bobl, LAB CULTVR yw gofod pwrpasol cyntaf Ewrop sydd wedi’i neilltuo ar gyfer profiadau realiti rhithwir ac mae’n cynnig amgylchedd lle gall cynhyrchwyr, technolegwyr, gwneuthurwyr ffilm a theatr, artistiaid, academyddion a pherfformwyr ddod ynghyd i wireddu galluoedd y cyfrwng unigryw hwn.
Maes o law, gobaith 4Pi yw bydd CULTVR yn agored i unrhyw un a phawb sydd am archwilio eu cyfleusterau a manteisio arnynt, ond am y tro maent yn gweithio ar wneud CULTVR yn gynaliadwy. Fe gafodd ei agor yn swyddogol ddydd Iau 21 Tachwedd, a dywedodd Matt:
“Mae angen i ni feithrin cymuned a dyma’r gofod cyntaf o’i fath yn Ewrop. Mae angen i chi fwynhau’r gofod hwn a lledaenu’r gair.”
Mae’r gofod yn cynnwys labordy, cromen ddawnsio, cromen ymdrwytho fwy ei maint, gofod celf lle cynhelir arddangosfeydd, bar er mwyn cynnal digwyddiadau, Labordy Realiti Rhithwir/Artiffisial a chwmnïau preswyl, United Filmdom a Ctrl Alt Design.
Golwg o’r tu mewn:
Cychwynnodd CULTVR fel porth ar lein ac mae 4Pi yn gobeithio dal gymaint o gynnwys 360 ag sy'n bosib er mwyn creu archif 360 un diwrnod: "Y gobaith yw gallu mynd i gymaint o ddigwyddiadau â phosib a chael ffilm 360, neu sgan galeri, i gadw'r cynnwys mewn rhyw ffordd ddigidol sy'n fwy na geiriau neu lun. Rhywbeth sy'n caniatáu'r gynulleidfa i ddarganfod ac ymgysylltu â phrofiad."
Mae profiadau 360 yn bwerus am ei bod yn torri'n rhydd o'r ffrâm ac yn caniatáu i'r gynulleidfa ymgolli'n llwyr yn ôl 4Pi, a dyna yw'r syniad y tu ôl i CULTVR. Dywedodd Matt: "Pan rwyt ti'n rhoi'r gallu i rywun archwilio, mae mwy o effaith ac ymgysylltiad... rydyn ni wedi arfer gormod ar brosesu pethau heb feddwl rhyw lawer am y cynnwys neu'r hyn sy'n digwydd yn lle ymgysylltu'n uniongyrchol. A dyna oedd gwraidd y platfform, y porth, y syniad a'r freuddwyd. Nawr mae gennym ni gyfleusterau, adeilad - mae gennym ni ganolbwynt."
Mwy am CULTVR yma.