Mae perchnogion Gwdihŵ, un o leoliadau cerddorol fwyaf poblogaidd Caerdydd, wedi cyhoeddi'r wythnos hon eu bod nhw'n gweithio gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru er mwyn troi'n fusnes cymunedol.
Daeth unigolion a lleoliadau sin gerddoriaeth annibynnol y ddinas ynghyd i leisio eu cefnogaeth a'u pryderon ar ôl i Gwdihŵ gyhoeddi fis diwethaf y byddai eu drysau'n cau am nad oedd eu les yn mynd i gael ei hadnewyddu.
Mae Gwdihŵ am roi dyfodol y clwb yn nwylo'r cyhoedd, yn ôl y datganiad diweddaraf. Ar hyn o bryd maen nhw'n chwilio am leoliad arall yn y ddinas trwy gydweithio â Chanolfan Cydweithredol Cymru, y sefydliad a helpodd Le Public Space yng Nghasnewydd agor yn 2017 gyda chyfranddaliadau cymunedol. Bwriad y canolbwynt cerddorol yw arianu eu dyfodol nhw yn yr un ffordd.
Mae'r lleoliad wedi gwneud datganiad yn gofyn i unrhyw un â diddordeb mewn cyfrannu £1 neu fwy, neu gyda sgiliau mewn maes byddai'n gallu helpu'r achos i lenwi ffurflen.
Thanks for all your incredible support since announcing our closure. We've released a new statement which you can read in full here: https://t.co/yUSuw1eoya
— Gwdihw Cafe Bar (@GwdihwCafeBar) January 9, 2019
Fill in the form: https://t.co/XXlgFNnfEh pic.twitter.com/LBPfsF6ofN
Bydd y cyfraniadau yma'n cael eu defnyddio er mwyn mesur sgil y ddiddordeb sydd mewn troi'r lleoliad mewn i fusnes cymunedol ac ni fydd arian yn cael ei gasglu tan fod penderfyniad wedi'i wneud ynglŷn â dyfodol y lleoliad.
Yn eu datganiad roedd tîm Gwdihŵ yn estyn diolch i bawb am y cariad a'r gefnogaeth maen nhw wedi derbyn ers cyhoeddi'r newyddion i gau, yn enwedig tîm Achub Gwdihŵ a Guildford Crescent, Minty o Minty's Gig Guide a Jo Stevens AS i Gaerdydd Ganolog. Fe amlinellodd y datganiad hefyd petai'r clwb rhywsut yn cael aros yn eu lleoliad presennol neu'n gorfod symud byddai'r arian yn cael ei fuddsoddi mewn i'w dyfodol a chael ei ddefnyddio er mwyn ehangu. Gallwch wneud cyfraniad yma.
Ar ôl i'r lleoliad gyhoeddi eu bod yn mynd i gau ar y 31ain o Ionawr ynghyd â'r Thai House a bwyty Madeira casglwyd mwy na 20,000 llofnod i wrthwynebu'r dymchweliad gyda deiseb ar-lein. Mae'r tîm Achub Gwdihŵ a Guildford Crescent wedi bod yn gweithio'n ddiflino i achub y canolbwynt diwylliannol yng Nghaerdydd. Ysgrifennwyd llythyr agored i arweinydd Cyngor Caerdydd yn pwysleisio pwysigrwydd Strategaeth Cerddoriaeth Caerdydd a lansiwyd yn 2017.
Dwy flynedd ers llwyddiant yr ymgyrch i Achub Stryd y Fuwch Goch, mae'r newyddion yma yn ogystal â Buffalo yn cau eu drysau am y tro olaf ar ddiwedd mis Rhagfyr oherwydd dyblu ardrethi busnes, wedi arwain at bryderon newydd ynglŷn â sefyllfa'r sin gerddoriaeth gymunedol yng Nghaerdydd.
As @IVW_UK starts end of Jan, Cardiff feeling it with @GwdihwCafeBar & @buffalocardiff look likely to close. And @MuniArtsCentre Pontypridd. And @parrotmusicbar Carmarthen. https://t.co/Lkv7XaDohg
— Huw Stephens (@huwstephens) January 8, 2019
Achubwch Gwdihŵ a Guildford Crescent / Save Gwdihŵ & Guildford Crescent, Cardiff https://t.co/XVHXN0xSxw
— Gruff Rhys (@gruffingtonpost) December 12, 2018
Mae cyfres o ddigwyddiadau codi arian wedi cael eu trefnu yn y lleoliad drwy gydol mis Ionawr gan gynnwys noson cerddoriaeth jazz byw nos wener (11 Ionawr) er mwyn codi arian at yr achos. Mae'r tîm Achub Gwdihŵ & Guildford Crescent wedi cynllunio gorymdaith am ddydd Sadwrn nesaf (19 Ionawr), yn cychwyn ar Stryd y Fuwch Goch am 2pm ac yn gorffen gyda pherfformiad gan Gruff Rhys. Dilynwch y diweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol Gwdihŵ.